Top Bar

Partneriaid

Rydym yn dylunio ac yn gwneud ein cynnyrch felly gallwn weithio'n agos gyda chi i wneud eich un chi. Os oes angen cynhyrchion hyrwyddo arnoch chi, bod gennych chi ddyluniad rydych chi am fynd ag ef i'r farchnad, neu, yn syml, eisiau rhywbeth arbennig, wedi'i greu ar eich cyfer chi yn unig, rhowch wybod i ni.

Os hoffech ddod yn bartner, mae croeso i chi anfon e-bost atom.

The Outbuildings, Anglesey

Mygiau pwrpasol wedi'u creu ar gyfer gwesteion.

Gwely a brecwast cyfforddus a hwyliog, yn cynnal digwyddiadau preifat ac Ystafell Fwyta, yn gweini bwyd blasus.

Brecon Chocolates

Ystod y Pasg o fygiau.

Dewis arbennig o siocledi ac amrywiaeth helaeth o dryfflau a phralinau ar y cownter yn y siop sy’n newid yn aml.

The Regal Mutt

Amrywiaeth o fygiau hyrwyddo.

Mae The Regal Mutt yn cyflenwi cynhyrchion cŵn naturiol o ansawdd uchel i berchnogion moesegol ac o chwaeth.

Royal Welsh Agricultural Society

Fe wnaethon ni greu eu mwg yn dathlu 100 mlwyddiant yn cynnwys dyluniad o Iar Fach yr Hâf.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru ers dros ganrif ers ei sefydlu yn 1904.

Heddiw mae eu gwaith yn cynnwys darparu cefnogaeth i fusnes, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig, a threfnu a llwyfannu digwyddiadau bythol boblogaidd ein cymdeithas; yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.

Blas Mŵy BlackLion

Ynys Môn - nwyddau wedi eu gwneud ar gyfer y llofftydd, i westeion yfed te yn y bore mewn steil.

Caffi/Bwyty, Siop Anrhegion a Gwely a Brecwast.  Mae'r Black Lion yn cynnwys caffi/bwyty a siop glyd yn rhan wreiddiol yr adeilad, ac estyniad ystafell haul modern gyda lle bwyta ychwanegol yn y cefn, sy'n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau preifat neu gyfarfodydd hefyd.

Scottie & Russell

Cydweithio i greu ystod o fygiau ac addurniadau yn cynnwys eu dyluniadau hardd eu hunain.

Dogs Trust

Amrywiaeth o fygiau i godi arian i'r elusen. I'w lansio ar 15 Ionawr - Elusen y flwyddyn 2021/22. Rydym hefyd yn noddwr ar gyferA Dogs Trail o amgylch De Cymru yn 2022.

The Alzheimers Society

Fe wnaethon ni greu ein hystod Forget me Not i godi arian ar gyfer yr elusen - Elusen y flwyddyn 2021/22.

Cwt Cadi

Creu mygiau wedi'u haddurno â'u dyluniadau trawiadol.

Siop Inc, Aberystwyth

Fe wnaethon ni greu amrywiaeth o grochenwaith i gyd-fynd â'u dyluniadau.

Sloane Home

Cydweithio i greu dyluniadau trawiadol i ategu eu model busnes presennol. Creu mygiau tsieni cain a nwyddau cartref.

Amrywiaeth o fygiau a nwyddau cartref.

Penderyn Distillery

Eu distyllyr eiconig oedd y brif nodwedd ddylunio ar gyfer eu hystod o fygiau. Ar gael yn Siop Anrhegion Penderyn yn unig.

Pen-y-Graig Woodland Centre

Mae Pen-Y-Graig yn cefnogi adferiad cyn-filwyr lleol, personél "golau glas" brys a staff y GIG sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl acíwt, trwy raglen o sgiliau coetir creadigol - dan arweiniad hyfforddwyr ac ymarferwyr profiadol.

Jojo Maman Bébé

Rydym yn gwneud amrywiaeth o fygiau a chynhyrchion ceramig sy'n cynnwys dyluniadau JoJo Maman Bebe

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rydym wedi creu detholiad o ddyluniadau pwrpasol i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ac yn cyflenwi ein hanrhegion tsieni cain ein hunain yn rheolaidd i nifer o gyrchfannau twristiaid.

Bullies Out

Rydym yn gweithio gyda’r elusen hon sydd wedi’i lleoli yng Nghymru i ddylunio a chreu ystod o fygiau ac addurniadau. Mae’r elusen gwrth-fwlio yn gweithio i gefnogi ac addysgu pobl ac rydym yn falch o fod yn eu helpu i godi arian y mae wir ei angen.

NAAFI

Cydweithio i greu ystod o fygiau, jygiau a thebotau yn cynnwys eu dyluniadau eiconig eu hunain