Cyfarwyddiadau Gofal

Gofal Cynnyrch

Golchi Tsieni Asgwrn

Er mwyn cadw ein tsieni asgwrn yn edrych ar ei orau, rydym yn argymell ei fod yn cael ei olchi cyn gynted â phosibl ar ôl ei ddefnyddio. Golchi gyda llaw yn ysgafn heb ddefnyddio sgwriwr ffrithiol yw'r ffordd orau o'i gadw'n edrych fel newydd.

Golchi mewn Peiriannau Golchi Llestri

Mae ein holl gynnyrch yn addas i'w defnyddio yn y peiriant golchi llestri a'r ficrodon.

I ymestyn oes eich cynnyrch, dilynwch y canllawiau hyn.

Ni ddylai cynhyrchion tsieni asgwrn cain gyffwrdd â'i gilydd gan y gallai achosi crafu neu gracio oherwydd dirgryndod. Peidiwch â gorlwytho'r peiriant golchi llestri. Defnyddiwch gylchred golchi sensitif. Y tymheredd uchaf a gynghorwyd yw 60ºC (140ºF). Defnyddiwch lanedyddion tyner ac ysgafn. Gwnewch yn siŵr bod yna gylchred rinsio i olchi unrhyw ffilm glanedydd i ffwrdd.

Cofiwch, dros amser, y gallai'r gwydredd a’r lliwiau seramig ar tsieni asgwrn ddirywio. Bydd defnyddio peiriant golchi llestri yn cyflymu'r broses pylu a bydd yn gwanhau'r gwydredd.

Cael Gwared ar Staeniau

Golchwch eich tsieni asgwrn cyn gynted â phosibl i leihau'r posibiliadau o staenio gyda the neu goffi cryf.

Ceisiwch gael gwared ar staeniau drwy:

  • Wlychu mewn dŵr cynnes cyn golchi.
  • Gwlychu sleisen o lemon mewn dŵr.
  • Soda pobi - gweler cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr.
  • Defnyddiwch doddiant glanhau fel toddiant sterileiddio offer babi.

Gwydnwch Tsieni Asgwrn

Mae tsieni asgwrn yn sensitif ond yn wydn os caiff ei ddefnyddio'n gywir. Dylai tsieni asgwrn cain bara am flynyddoedd.

Gall newidiadau tymheredd eithafol niweidio tsieni asgwrn, er enghraifft gall dŵr poeth sy'n cael ei arllwys yn gyflym i mewn i fwg tsieni asgwrn oer achosi iddo gracio - bydd gosod llwy fetel yn y mwg cyn arllwys y dŵr poeth yn helpu. Os ydych chi’n cymryd llaeth, yna bydd ei ychwanegu cyn y dŵr poeth hefyd yn helpu.

Peidiwch â rhoi tsieni asgwrn yn y rhewgell, mewn gwres uwchben 60°C (140°F), na’i roi mewn cysylltiad â fflam noeth.

Ni ddylid ei ddefnyddio at ddibenion coginio.

Bydd tsieni asgwrn yn fwy tebygol o gracio gyda dŵr poeth os oes rhywbeth wedi cael effaith arno rywbryd yn ystod ei oes.

Storio Tsieni Asgwrn

Er mwyn osgoi crafu'r arwyneb peidiwch â storio cynnyrch tsieni asgwrn yn uniongyrchol ar ben ei gilydd. Bydd hyn yn atal crafiadau a tholciau rhywfaint.